Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awr dechreuodd yr ysmotiau cochion gilio, ac yn fuan digroenodd y wyneb a'r dwylaw a gwadnau y traed. Dechreuai John sylwi yn awr, er nad oedd eto wedi gwenu na llefaru unwaith. Pan ddechreuodd siarad, O'r fath lawenydd! Cerddodd pob anadl trwy y tŷ yn rhwyddach. Dychwelodd yr hen fywyd gynt mewn rhan. Adfywiodd calonau y tad a'r fam fel pe buasai mynydd mawr wedi ei symud ymaith. Yn fuan daeth y dioddefydd bychan yn alluogi adael ei wely am gôl ei fam, a dechreuodd eistedd yn ei ystol fechan wrth y tân. Daeth awydd siarad arno megis cynt; a gofynai wrth edrych allan trwy y ffenestr ar yr eira, o ba le y daethai yr holl halen, ac i ba ddiben yr oedd wedi ei osod yno. Y nos Calan dilynol, pan oedd John wedi bron ei lwyr adferyd, eisteddai y tad a'r fam, eu merch a'u mab bychan ar yr aelwyd yn y parlwr; y fam yn gwnio, a'r tad yn darllen. Rhoddodd y ddau eu gwaith heibio yn ddisymwth o dan ddylanwad teimladau dwysion, ac aethant yn ol dros flynyddoedd eu bywyd priodasol, yn enwedig y flwyddyn olaf; a chan gymeryd John yn ei breichiau a'i wasgu at ei chalon, dywedai y fam: O fy nhrysor anwyl! O fy mab yr hwn a fu farw, ac a aeth yn fyw drachefn!"

"Ie," meddai y tad, a llais crynedig gan deimlad, bu yng nglyn cysgod angau, ond holodd y Bugail Da ef yn ol i ni. Bendigedig fyddo Ei enw!"

Y nos Calan honno ciliodd ymaith ymyl olaf y cwmwl cyntaf hwn ar deulu Penlan, a gadawodd hwynt yn llawn diolchgarwch calon, ac yn barotach ar gyfer cwrdd â thrallodion dyfodol.