Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANT O NERTH I NERTH.

A MI yn rhodio hwyr brydnawn,
Hyd ymyl afon ledan lawn,
A'i haraf dreigl yn cymell cân,
Mi welwn ar y ddôl ger llaw,
Rhyngwyf a gwyll y dwyrain draw,
Y tywysogaidd dderw glân.

Fel tyrau oedd eu cygnog nerth,
Di gryn o flaen ystormydd certh,
Eu breichiau'n tanu dros y tir;
Ond bu pob un o'r derw hyn
Yn esen fach ar lawr y glyn—
Fe ofyn mawredd amser hir.

Mi welwn glochdy'r eglwys hen,
Ac ar ei lwydaidd gopa wên –
Claf wên yr ymadawol haul;
O faen i faen yr aeth i'r lan,
Pob egwan wr yn gwneyd ei ran,
A llawer cod yn dwyn y draul.

Yr afon lifai ger fy mron,
A swn awelog ym mhob ton,
O'r bryniau pell y daeth i lawr;
Hi fu'n afonig yn y pant,
A chwyddwyd hi gan lawer nant,
Nes llydan yw ei gwely'n awr.

Ymlaen daw'r nos a'i swynol hedd,
Gan wisgo'r byd ar newydd wedd,
Mor raddol ei gogoniant yw !
Un ar ol un ymddyrch y ser
I chwyddo y gymanfa der
Nes gemu'r nen â llygaid byw.