YR ATHRAW
FFARWEL GOLYGYDD.
At ein Darllenwyr.
TRO hwn y mae gennym air atoch, ddosparthwyr a derbynwyr caredig. Mae wedi bod yn ein bryd i'w ddweyd o'r blaen, ond cyhyd ag y medrem, peidiem. Eithr nid eiddo gwr ei ffordd. Pan ddaethom i'r penderfyniad o ddwyn allan gyhoeddiad bychan i'r ieuainc, aeddfedasem y cynllun ar draethoedd heulog ac yn sŵn tonnau soniarus y Cardigan Bay, ychydig wedi canol haf 1865, yn nedwydd gwmni un nad yw yn rhodio yma mwy. Fel yr elai y flwyddyn ddiweddaf rhagddi, ar ei mynwes fe gasglai cwmwl du, yr hwn a barhai o hyd i fyned yn fwy bygythiol, a'r hwn o'r diwedd a dorrodd ar ein pen yn nechreu y flwyddyn bresennol.[1] Cwmwl arall a gododd drachefn o'r un parth o'r wybren, ac ym mis Mawrth oer a chawodog torri a wnaeth hwn hefyd.[2] Croes iawn hyn oll i gynlluniau a dymuniadau ein calonnau hiraethus ni, eto cadarn yw ein crediniaeth mai tadol gariad perffaith oedd yma yn gweithredu. Teimlem unwaith fod angenrhaid arnom i roi y cwbl i fyny y pryd
- ↑ Nodyn olaf yr Athraw, rhifyn Ionawr, 1867, sydd fel hyn: Ar y 4ydd o'r mis hwn, yn 37, oed, Mary, anwyl briod Golygydd yr Athraw, gan adael tair merch, a mab, ac yntau, i ddwys alaru eu colled anadferadwy."
- ↑ MARW GOFION.—Mawrth 12fed, yn naw mis oed, ac ym mhen tua deufis ar ol ei mam, Minnie, plentyn ieuangaf Golygydd yr Athraw. Claddwyd hi wrth gapel y Llwyn ym medd ei mam. Dydd ei hangladd (y 14eg) darllenodd a gweddiodd y Parch. Evan Morgan, Ficer Llandyssul, yn y ty; yn y Llwyn dechreuwyd gan y Parch. John Davies, a phregethwyd gan y Parch. D. Evans, B.A.. ar 1 Pedr 1. 24, 25; a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch. W. Thomas,