Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnnw; wedi hynny penderfynasom ei hymladd hi yn mlaen hyd ben tymor, ac felly y bu. Eithr y mae doethineb bellach yn ein rhybuddio mai gwell fyddai i ni ar hyn o bryd ymneillduo o ofal yr Athraw. Ond wrth wneyd hyn dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch am y gefnogaeth wresog a gawsom, a'r ffyddlondeb, y tu hwnt i'n disgwyliadau, a brofwyd gennym ar law y cyhoedd darllengar, ar law dosparthwyr hunanymwadol, a rhyw ychydig o gynorthwywyr galluog. Mae dadgan hyn yn ddyled arnom yn gystal ag yn bleser i ni, rhag i neb dybied fod yr Athraw yn cael ei roddi heibio o ddiffyg cefnogaeth: nid felly yn wir. Nid oedd ein cylchrediad mor helaeth ag y buasai ddymunol, ond y mae yn awr ar y diwedd agos i gant yn fwy nag a broffwydai ein cyfeillion brwtaf y byddai iddo ei gyrraedd hyd yn nod wrth gychwyn. Mae yn aros eto i'w benderfynu pa beth a drefnir gan ein cyfeillion tuag at ddwyn allan ryw gyfrwng o'r fath, ond helaethach, yn debyg, a digon sicr llawer galluocach na'r Athraw, ar ol i'r olaf encilio o'r maes. Ond hyn a ddywedwn, megys nad oedd gennym ni wrth gychwyn yr Athraw y bwriad lleiafi orfaelio maes na niweidio anturiaeth neb; felly yn awr bydd yn falchder ac yn bleser gyda ni i wneyd ein rhan tuag at hwylysu dygiad allan unrhyw gyhoeddiad a gychwyno ar sail eang ein Crist'nogaeth rydd. Hyn sydd ddilys, fod galwadau ac anghenion, ac, yn wir, naws ac archwaeth yr oes hon y fath, fel na ddylai mis basio heb i ryw gyhoeddiad o'r ddelw a'r argraff yna wneyd ei ymddangosiad. Nid yw y ffaith fod cyhoeddiadau enwadau eraill yn dyfod, rai o