Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honynt yn enwedig, yn rhyddach ryddach, yn un rheswm i ni dros dynnu ein dwylaw yn ol, eithr yn rheswm yn hytrach paham y dylem ymroi ati, rhag bod i ni, y rhai a broffeswn gymaint o ymlyniad wrth ryddid a rhydd—ymofyniad ein cael, o'n gosod yn y clorianau, yn brinach yn hyn. nag enwadau eraill, yr arferwn siarad am danynt fel gwrthrychau i dosturio wrthynt, oherwydd fod maen melin credoau yn g'lymedig am eu gyddfau.

Cyn terfynu, nis gallwn beidio a chrybwyll ein rhwymau neillduol i un o'n cynorthwywyr, y Parch. R. J. Jones, Hen Dŷ Cwrdd, Aberdar, am ei help ffyddlawn i ni ar lawer dull o'r dechreuad. Hebddo ef, buasai ein dwylaw wedi llaesu er ys tro hir. Mae eraill yn perthyn i'r un dosparth, ond buasai yn fai ynnom i beidio â'i nodi ef, er y gwyddom nad yw ef o bawb yn un a garai i'r cyhoedd wybod am ei rinweddau.

Ac yn awr, gyfeillion serchog, un ac oll, derbyniwch ein hysbysiad hwn y bydd i'r Athraw ar ben ei ail flwyddyn, sef gyda'r rhifyn nesaf, gael ei roi i fyny mor bell ag y mae a fynnom ni âg ef. Mae yn ddrwg gennym orfod dweyd hyn, ond nis gallwn oddiwrtho. Rhad Duw arnoch oll.

Y GOLYGYDD.

Llandyssul, Mehefin 15, 1867.