Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ofer disgwyl wrth ei elw
Iw gysuro y pryd hwnnw,
Nid oes a wared ein heneidieu
Ond Cyfiawnder yn awr Angeu.

Pan fo'r coed yn torri allan i ddeilio. ac i flodeuo, mae'n arwydd fod yr hâf yn agos, yn wir nid yw'r blodau na'r dail, yn arwyddion siccir o ffrwythydd llawn: Ilawer o brenniau sydd yn awr wedi ei gwisgo a'i haddurno ag ynnw, a ddichon er hynny brifio yn anffrwythlon, ag attal yr hyn a ddisgwilir oddiwrthynt: fellu hefyd ymhlith proffes wyr Crefydd; llawer a ddichon ddangos yn deg yn ei hymarweddiad oddiallan, ac ynill canmoliaeth gan eraill o'u cwmpas a bod etto yn ôl o ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw.

Arglwydd leied ydyw'r nifer
Sy'n dwyn ffrwythau yn ei hamser;
Pob ceubren crin yn d'eglwys santedd
A ddadwreiddir yn y diwedd.

Megis y disgyn claiarwlaw Ebrill ar y ddaear, gan beri iw blode a'i ffrwythau dyfu; fellu y difera yr Arglwydd ei air, ac y tywallt ei ysbryd ar ei etholedigion i beri iddynt fod megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ai ddeilen yn ir, ac ar