Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho neu ardd wedi ei dyfrhâu, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd.

Dâd nefol, gogonedda dy enw, ac megis y gogoneddaist ef eusoes ymhob lle, trwy aneirif dystiolaethau dy ddoethineb, daioni a'th gallu; yr hwn a beraist ir ddaear darddu yn y tymmor hwn, bydded gwiw gennyt ei ogoneddu drachefn, trwy amlygu rhinwedd a gallu dy râs ynghalonnau dy bobl, gan ei gwneuthur yn ffrwythlawn yn y gweithredoedd hynny y rhai a fyddo er gogoniant a mawl iti yr awrhon ag yn dragywydd.

O na fedrwn heddyw godi;
Fy llef fel utgorn i gyhoeddi
Uwch ben yr holl fyd, a rhybyddio
Ei bobl y perigl i maent ynddo.

Natur sydd yn llawn ufudd-dod,
I ddangos gwrthieu'r Brenin uchod;
Dengys dydd a nos wybodaeth,
Tywyllni a g'leini ei ragluniaeth.

Troi'i feddalu a wna'r ddaear,
Ddechrau'r gwanwyn yn bur gynnar;
Ond dyn a erys dan ddigofaint
Duw o'i ieuengctyd teg iw henaint.