FY NGHANGEN URDDASOL.
Tôn,—"ARMEIDA."
FY nghangen urddasol, hoff rasol i phryd,
Fel Judeth, am berffeth wybodeth y byd,
Ych rhadlon gynheddfe yw rhwyde mawr hud,
Sy i'm dal fel aderyn gwael edyn mewn glud;
Ni weles, ni cheres, o'i choryn i'w throed,
Un forwyn yn ymddwyn mor addfwyn erioed:
Tra byddoch ar sail lwys ddaiar las ddail,
Ni phoenaf breswylio mwy chwilio am ych ail.
Hawddgarwch eich corffyn eglurwyn fel glain,
A wnaeth im dderchafu i'ch caru, ferch gain,
A chwithe oedd yn disgyn, heb ronyn o bris,
I ostwng meddylion fy nwyfron yn is;
Fy ffansi rois i arnoch, ni wyddoch mo'i werth,
A'm serch diwahanol, anianol o nerth;
Fy meddwl, fy mun, a'm twyllodd fy bun,
Mae'ch calon yn galed er llonned ych llun.
Pawb a gydnebydd o'ch bedydd ych bod
Am bopeth ond hynny yn glynu'n y glod;
Mae ynnoch gar'digrwydd, mwyn arwydd, main ael,
Yn gyflawn o'ch glendid, pe gellid i gael;
Nid ydyw l'eferydd yn gelfydd heb gân,
Ne gynnud mewn aelwyd ond oerllyd heb dân;
Nid yw dim a roer i lanw, gan loer,
Heb gariad pur ffyddlon o'i dwyfron, ond oer.
Ni waeth imi geisio drwy dreio â gordd driw
Falurio 'r graig galed, gwawr addfed, gwir yw,
Na cheisio 'ch ail impio, a'ch llareiddio, lliw'r od,
I wneuthur trugaredd i'r clafedd er clod;