Er hynny, rhianer, fel glân glomen glau,
Cai gennych fy ngwrando, a chwyno i'm iachau ;
Nid ydyw'ch gair call, heb ewyllys di-ball,
Ond megis yspectol ne ddeiol i ddall.
Ond mynych gymynu, a mynnu'r un marc,
Fo gwympa'r pren teca a'r pura'n y parc,
Y fedwen, a'r onnen, a'r hen fesbren fawr,
A'r beredd winwydden oleuwen hi ai i lawr;
A chwithe, sydd gangen glws irwen yn siwr,
Heb osio gogwyddo na gwyro at un gŵr,
Rhyfeddod y fydd, a minne a'm llaw'n rhydd,
Na chawn gennych blygu ne nyddu yn y nydd.
Er maint fy ffyddlondeb i'ch wyneb, iach wedd,
Nid mawredd fy mwrw er mwyn benyw mewn bedd;
Cyfreithlon, perffeithlon, a chyfion i chwi
Oedd roi mwy gorchafieth am afieth i mi;
Ych glendid a'ch coweth hudolieth nid yw,
O rym i roi imi 'r ymedi yn y myw;
Na dim ar a gawn i dyfu mewn dawn,
Ond purdeb am burdeb mewn undeb yn iawn.
Os gwnewch chwi drugaredd lawn fwynedd, lân ferch,
I dalu i mi 'n hollol gysurol am serch,
Cariad am gariad, mewn teg fwriad da,
Yw'r cu amod cymwys yn gyd-bwys a ga,
Wel dyna'r maen gwerthfawr a rhoddfawr, wawr hael,
Hwn all fy modloni a'm digoni ond i gael;
Chwi am cewch yn ych cell, fel perl o le pell,
Ni ymgleddodd arglwyddes i'w mynwes ddim well.