Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RICHARD MILTWN
O'r Plas Newydd, ym Mhlwyf Llansilin.
Tôn,—"Y GALON DROM."

ER bod yn byw ymysg dieithried,
Lle'r ordeiniodd Duw i'm dynged,
Er cael cariad a chredigrwydd,
A byd heleth, bywyd hylwydd,
Meddylion mwynion sy'n fy mynwes,
Wrth fyfyrio a wna i mi wylo am y weles,
Colles y rhai a geres fwya,
Ber yw byr oes, marw heb hiroes mae y rhai pura.

Rwy'n cario meddwl trwm i'm dwyfron,
Lle bu llawenydd heb ofalon,
Nid all calon drom alarus
Gan anhunedd ganu'n hoenus;
Er bod bob dydd mewn difai helynt,
Trist anianol yw fy nghalon am fy ngherynt ;
Am un câr heb gymar iddo,
Aeth i'r ddaear yn rhy gynnar, rwy'n hir gwyno.

Richard Miltwn oedd i henw,
Yr angel gwyn, eglurwyn, gloew;
Canwyll cenedl y Miltwnied,
Gŵr hoff inni i gorff a'i ened;
Mwyna mwynwalch, difalch dyfiad,
Gwaredd fuchedd llawen gwyredd llawn o gariad ;
Ni wela i fyth y fath bendefig,
Amlwg eglur, mawr Greawdwr, mr garedig.

Er mynych gwynfan, dan ochneidio,
I farwoleth, ofer wylo,
Rhy dda oedd i gael i gwmni,
Hoew resyn, i hir oesi;