Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CERDDI TIR Y TAERION.
Tôn,—"IANTO O'R COED."

I.

MAE Duw yn danfon rhoddion rhwydd,
Nyni a'u gwelwn yn yn gwydd,
Pob peth sydd iawn, ar lawn wir lwydd,
Ond anial awydd dynion;
Er da, a dŵr, a daear deg,
O flaen trachwant rhwth i geg,
Nid yw i ddyn yr un o ddeg yn ddigon.

Y rhai llwyddiannus yn y byd,
Sy aniwiola, gwaetha i gyd,
Medd geirie Dafydd ddiwiol fryd,
A rhodio ar hyd anrhydedd;
I finder fo oedd i llwyddiant llawn,
Nes mynd i dŷ Dduw da i ddawn,
Ac yno dalltodd ef nad iawn i diwedd.

Cynnydd hylwydd gen Dduw hael,
A gadd Usia, mawrdda a mael,
Ac o fawrhydi gwedi i gael,
I ddiwedd wael a welir;
Derchafu a wnaeth pan aeth yn gry,
A chodi i galon yn anhy,
I'w ddistriwio i hun fel pry fe'i profir.

Y rhain ymddengys fel yr wyn,
Yn araul deg, yn ole ar dwyn,
Ac fel llwynogod yn y llwyn,
Cyd-ddwyn yn fwyn a fynnan;
Taflu a wnan drwy Satan swydd,
I ffwrdd yr union o'u ffordd rwydd,
A'r gwydyn gam ag aden gŵydd a godan.