Er dichell dyn, pob gweithred fraith,
A'i sail ar gamwedd fuchedd faith,
Honno a dyrr. drwy hynod iaith,
I gwddw o'i gwaith i hunan;
A'r sawl a'i gwnel sy'n gwrthed gras,
Drwg y ceidw y diawl i was
Yn yr un modd a Suddas gas i gusan.
Yn nghantref Maelor, cyngor caeth,
Y gwnaed y pechod, syndod saeth
Trwy wenieithus dafod ffraeth,
Ac ysbryd gwaeth yn gweithio;
Nid mawr y synwyr oedd i'w gap,
Er bod mor hwylus ar i hap,
Ar sylwedd drwg y seiliodd drap i'w dripio.
Swydd y Waen, hen orsedd wych,
Sylfaenwch, sefwch ar dir sych,
A chymrwch Faelor i chwi'n ddrych,
A rhybudd clych Rhiabon;[1]
Chwi gewch weled cyn y bo hir,
Os ydi 'r Sgrythyr lân yn wir,
Ryw arwydd tost oherwydd tir y taerion.
Rhai sy'n ceisio ymgadw'n gall,
Gan daflu'r drwg o'r naill i'r llall
Fe pe bydde Dduw yn ddall,
Ne'n ddwl heb ddeall ynddo;
Fo ddaw y rhain gerbron ryw bryd,
Am wneuthur beie i anrheithio'r byd,
Fel Adda ac Efa a'r sarff i ym-gyd-gyhuddo.
- ↑ Dywedir i ryw rai ym Maelor gymeryd llaw oer gŵr oedd yn farw yn ei arch, a gwneyd iddi arwyddo ewyllys, ac yna tyngu mai ysgrifen y gŵr marw oedd. Credid fod clychau Rhiwabon wedi canu, ohonynt eu hunain, yn nyfnder nos, pan wneid y weithred ysgeler.