Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy i adnewyddu i hun fel sant,
Fo a ddaw i lwyddiant diwyd;
Hwnnw a geidw'n gadarn fyw,
I anwyl ened, eured yw,
Nid rhaid i undyn ame Duw am i addewid.

Hyn a ddywed Un a Thri,-
"Nid oes ewyllys gennyf fi,
I'r marw farw'n wael i fri,
Gan hynny, chwi, dychwelwch;
Fel y byddoch byw trwy ffydd,
Ni wyddir pwy yfory a fydd,
Clywch ych gwahodd, heddyw yw dydd
dedwyddwch."


DIC Y DAWNS.[1]
Tôn,—"ANODD YMADEL."

POB glanddyn cariadus afiaethus yn fwyn,
Gwrandewch ar fy hanes a'm cyffes a'm cwyn;
Rwy'n dangos hysbysrwydd, wych bylwydd, i chwi,
Na welsoch chwi haiach ynfytach na myfi.

Mi fum yn oferedd yn hoewedd yn hir,
Ac weithie'n awyddus, argoeddus yw'r gwir,
Er ennill y geniog mor gefnog a'r gwynt,
Er cynted eillwn, mi a'i gwariwn hi'n gynt.


  1. Dywed rhai llawysgrifau mai Richard Abram a ganodd y gerdd hon,