Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Myned adduned ddain,
Lles yw, tua llys Owain;
Yn ddiau, hyd yno ydd âf,
Nid drwg, yno y trigaf;
I gymryd i'm bywyd barch,
Gydag of o gydgyfarch.
Fo all fy naf uchaf ach,
Aur ben cler, dderbyn cleiriach;
Clywed bod, nis cel awen,
Ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen;
I'r llys ar ddyfrys ydd af,
O'r deucant odidocaf;
Llys barwn, lle syberwyd,—
Lle daw beirdd aml, lle da byd;
Gwawr Powys fawr, beues faig,
Gofyniad gwiw a fenaig.—
Llyma'r modd a'r llun y mae,
Mewn ergylch dŵr, mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ag unporth lle'r ai canpyn:
Cyplau sydd, cypleus ynt,
Caboledig pob cwpl ydynt;
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Clostr Westmastr, cloau ystwyth;
Cafell o aur cyfoll yw,,
Cynglynrwym pob congl unrhyw;
Cynglynion yn y fron fry,
Dordor megis daeardy;
A phob un fal llun llynglwm,
Sydd yn i gilydd yn glwm.
Tai nopl ar follt deunaw-plas,
Tai pren glân ar dop bryn glas;
Ar bedwar piler eres,
Mae i lys ef i nef yn nes;
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adailgraff;