Syres, sedrws, sypressws prisiaw
Palma olifia draw.
Naw angel hwynt a welir,
Gyda thi ar goed a thir.
Un o bob gradd yn addef
Rhwydd iach o raddau nef;
Pedwar cant, pum mil gwyliwn,
Un Duw, ar dy gorff yn dwn;
A phymtheg ychwaneg yng nghor
Rwygaw a thrugain ragor.
Dy ladd o fodd yn goddef,
Dy nawdd, un Mab Duw nef;
Dywaid, a roist dros wyr,
Dy orhoen oll, Duw Eryr!
Brenin wyd, bwriwyd mewn bedd,
Bron hynod, mewn brenhinedd.
Aroglaidd teg, Arglwydd, wyt ti,
Er gwleddau i arglwyddi;
Nid hendad wyd i'th gadair,
Ond Duw Fab, yn Fab i Fair.
Un oed yw'r Ysbryd iawnaf,
Dy nawdd ydyw Duw Naf;
Yn un Duw, yn iawn ddeall
Yn dri ag un, pen cyn call;
Drych haul fal y drych hoew-len,
Sylldy byd sy uwch dy ben;
Un yw'r haul leuer hoew-lyw
I ti, iach un a thri yw.
Felly'r wyd, Duw proffwydi,
Yn iaith Roeg, yn un a thri;
Dygaist a'th groes, bum oes byd.
A phoen uffern, a phenyd.
Ymherodr wyd y moroedd,
Awyr a thir o'th wyrth oedd.
Tydi a wnaeth, Mab maeth Mair,
Iawn gost popeth o un-gair;
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/47
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon