Cywyddau Crefyddol.
Fab Naswn, wiwron arab,
Da bwyll, fab Aminadab;
Fab Aron lin Esdon les,
Offery gwir, fab Phares,
Fab Iuda, fab ni wna nag,
Eisoes Iacob, fab Isag;
Fab Abram, bab o rym bwyll,
Fab Thare, deidiau didwyll;
Fab Nachor, fab clodfor clan,
Rhugl fab Sarch, fab Rhegan;
Fab Ffaleg, diofeg dwyll,
Hebr fab Sale hoew-bwyll;
Fab Canan, wrddran eurddrem,
Fab syw Arphacsat, fab Sem;
Fab Noe hen i lên a’i lw,
A adeilodd rhag diluw;
Fab Lamech, dra difeth drem,
A'i sel, fab Mathusalem;
Fab Enoc fwya i benwn,
Fab Iareth, helaeth fu hwn;
Fab Mahalel, mawl eilwaith,
Cariad mil fu'r ciried maith;
Fab Canan, ddwyfan difeth,
Oes hir, fab Enos, fab Seth;
Fab Addaf, gloew eur-naf glwys,
Priodor tir paradwys;
Fab Duw i hun, gun gwrawl,
Tad pybyr, fab pob rhyw fawl,
Brawd llês i Addaf bryd llwyr,
A'i wrol daid a'i orwyr:
Brawd i Fair ddiwair ddwywaith,
A'i thad, a'i mab, enaid maith,
Brawd i bob Cristion o brudd,
Da dwyfawl a'i dad ufudd;
O hil Addaf hwylwydd-ior,
Yr ŷm yn geraint i'r Ior.
Arglwydd uwchlaw arglwyddi,
O nef, yw'n Pencenedl ni.
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/65
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon