Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyntaf y gwelaf mewn gwir,
Caer fawrdeg acw ar fordir,
A chastell gwych gorchestawl,
A gwyr ar fyrddau a gwawl,
A glasfor wrth fur glwys-faen
Garw am groth tŵr gwrwm graen,
A cherdd chwibanogl a chlod,—
Gwawr hoenus y gwr hynod;
Rhianedd nid rhai anhoew,
Yn gwau y sidan glân gloew,
Gwyr beilch yn chwareu ger barth
Tawlbwrdd a secr ger tal-barth.
Eres nad oes henuriad
Ar lawr Gwynedd, wleddfawr wlad!

"Oes," ebr un, "syberw wyd,
Breuddwydio yn brudd ydwyd,—
Y wal deg a weli di,
Da dyddyn, o deuid iddi,
A'r grug eglur a'r groglofft,
A'r garreg rudd ar gwrr grofft—
Hon yw Criciaith, a'r gwaith gwiw,
A'i hen adail, hon ydyw.
A'r gwr llwyd—cadr paladr-ddellt—
Syr Hywel a'r mangnel mellt.

"A'r gwr gwyn-llwyd, Twrch Trwyth trin;
Naws-wyllt yn rhoi barneis-win,
Mewn gorflwch aur goreurin,
O'i law, yn fy llaw yn llyn;
Ag ystondardd hardd hirddu,
Yn nhal twr, da filwr fu;
Tri fleur-de-lys oris erw,
Yn y sabl—nid ansyberw;
A thri blodeuyn, gwyn gwiw,
O'r un-llun, dail arianlliw;