Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i wraig, Syr, wregys euraid,
Hywel, ion rhyfel, yn rhaid;
A'i llawforynion, ton teg,
Ydd oeddynt hwy bob deuddeg;
Yn gwau sidan glân gloew-liw,
Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw;
Tau olwg, ti a welid,
Ystondardd yn hardd i sud—
Pensel Syr Hywel yw hwn,
Myn Beuno; mae'n i bennwn,
Anian fab Gruffydd rhudd rhon,
Ym mlaen am i elynion.
Yn minio gwayw mewn i gwaed,
Aniweir-drefn ion eur-draed;
Ysgythrwr cad ail Syr Goethrudd,
Esgud i droed, esgid rudd;
Ysgythred baedd ysgethring,
Asgwrn hen yn angen ing;
Pan rhodded trawsged rhwysgainc,
Y ffrwyn ym mhen brenin Ffrainc;
Barbwr fu fal mab Erbin,
A gwaew a chledd—trymwedd trin;
Eillio o'i nerth a'i allu,
Bennau a barfau y bu;
A gollwng, gynta' gallai,
Y gwaed tros draed trist i rai;
Anwyl fydd gan wyl Einiort,
Amli feirdd a mawl i fort;
Cadw'r linsir, cedwi loersiamp,
Cadw'r ddwy-wlad, cadw'r gâd, cadw'r gamp,
Cadw'r mor-darw cyd a'r mordir,
Cadw'r mor-drai, cadw'r tai, cadw'r tir,
Cadw'r gwledydd oll, cadw'r gloew—dwr,
A chadw'r gaer—IECHYD I'R GWR!"