Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ANGHOFIED ARAUL FOR

ANGHOFIED araul for barddoniaeth mwy
Aberu f'enaid, a'i thragwyddol donn
Arwynnu oerion greigiau siomiant sydd
Yn anialeiddio traeth bodolaeth byth ;
Anghofied olwyn ganol bywyd droi
Pan ddelo'r nefol lif i lawr, o rhwng
Breuddwydwawr fanciau adgof, fyth y sydd
Yn barod i ddiflannu pan y gwna
Yr enaid mawr ond edrych tuag yno;
Ymlaesed dyfnaf linyn teimlad, fel
Rhyw gangen oer gwynfannus oddiar
Fedd newydd, newydd adfail o ddynoliaeth
Rhyw galon wedi pallu gwaedu mwy
A lledu clwyf bodolaeth; boed yr oll
O fywyd sydd yn werth ei godi uwchlaw
Y bedd, a'i blannu ar uchelion col,
Dan nos dragwyddol,—Os ANGHOFIAF DI,
FY NGWLAD, FY NGHYMRU.