Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWIRFODDOLRWYDD.

O BYDDED i'r egwyddor fawr a'th ddwg
Yn llawen o bellderoedd nef y nef,
Anfeidrol daith! ymhell o dŷ dy Dad,—
A'th deyrnlys hardd dy hun, a'th goron deg,
A'th orsedd a'th deyrnwialen fawr ar ol,
I geisio'r crwydriad, dyn, yn dlawd dy wedd
A bod dy hun yn grwydriad yn ein plith,
Ardderchog Alldud o balasau Duw,
Heb o dy frodyr yn dy adwaen un,
A neb yn olrhain dy anfeidrol âch,—

Egwyddor gref! O bydded iti sedd,
Dylanwad, ac awdurdod ar fy mron.

Fy nghalon roddaf, Geidwad mawr, i ti,
A gwirfoddolrwydd a berffeithio 'r rhodd.

Yn aberth byw,—gorff, enaid, amser, oll,—
O freichiau gwirfoddolrwydd derbyn fi.

Gor. 12, 1854.