Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DAWEL NOS

Y DAWEL Nos! Cydymaith oer y beddau,
Mae fyth yn fud, yn sobr, a throm fel hwythau,
Ond Ah! Mae ganddi hi ei ser o bell, a'i heuliau,
Ei bydoedd o gerddo ion draw.

Pan suddo'r haul ar ruddgoch awr machludiad,
Ym mhorffor donnau'r hwyr, a thrymder yn ei lygad,
I eigion y gorllewin pan ddisgynna,
O croesaw, Nos, tydi a chôr y wynfa.

Y cwmwl ser sy'n gwlawio addewidion,
A diliau gwell i ddyn, o'u bannau gloewon,
"Mae acw'n ddydd." Yr ym yn hoffi'th wrando,
Un canol ddydd yw tragwyddoldeb yno.

Mae'r byd ym meddrod cwsg, y nos ei amdo,
Ac nid oes adsain yn yr awel heno;
A dedwydd sydd yn effro'n awr i weled
Y wynfa, a'i mil palasau, yn agored.

Tra chysgod angau ar y byd yn gorffwys,
Edrychaf tua thy fy Nhad, a thawel fro paradwys;
Mae'r ffordd yn glir, a'r heol fawr yn olau,
Rhwng aml fyd o dân a miliwn o lusernau.

Hyd. 26, 1859.