Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRO YN OL

HAWDDGARED yr olygfa! 'Roedd y nef
Heb niwlen ar ei hwyneb teg, a'r môr
Yn foddlawn i'w derfynau. Nid oedd ton
Yn codi o'r dyfnder i awgrymu fod
Llidiawgrwydd yno, fod elfennau'r storm
Yn ymgrynhoi. O! A ei di i ffwrdd
I ganol byd y dyfroedd?

Mae y chwa
Eisoes yn ymgryrhau, a'r tonnau ffroch
Yn disgyn ar y traeth yn drwm fel derw
Yn syrthio ar ael y mynydd. Eisoes mae
Y cwmwl yn tywyllu hyd ei odrau,
A swn taranau ieuainc yn ei fru.
Ha! Gwel y mellt yn hulio'r nef a thân,
A'r da an fawr, o ganol yr ystorm,
Yn rholio i lawr fel mynydd o'r cymylau.
Braw! Mae y môr yn codi o lan i lan,
A'r creigiau'n chwysu ar y glannau pell
Wrth atal rhuthr y llanw.

Tro yn ol!
Ha! Mae y lan o'r golwg, a'r ystorm
Rhyngot a hi, ac anial gwyllt o donnau.