Y LLONGDDRYLLIAD
FRY gwelaf y fellten yn torri trwy'r cwmwl,
Gan ledu ei baner o fflamau uwch ben,
A i hemrynt yn agor ar nefoedd o nifwl,
Yn agor lydaned a chyfled a'r nen;
A'r daran gan daflu ei phwys ar y gwyntoedd,
Rydd daith ogoneddus drwy ganol y nefoedd,
A chrynn gorddyfnderau a bannau y byd,
A deil y wybrennau eu banadl i gyd.
Ond nid yw y fellten yn gysur i ti,
Ac nid yw y daran eofnaf ei rhu,
Er rholio ar engyrth ymylon y lli,
Yn lleddefu y wendon anturus ei hynt,
Sy'n codi i'r lan ar adenydd y gwynt.
O, erch y goleuni sy'n dangos y cefnfor
O gylch yn fynyddau, a'r dyfnder yn agor
Bob tu yn ddyffrynnoedd llawn, llawn o fynwentydd,
Di-nodded, di-ddagrau, a noeth i'r ystormydd.
Ofnadwy y ffagl, er ei chynneu uwchben
Ar fannau, ar enbyd eithafoedd y nen,
Sy'n dangos yr hwylbren yn plygu o fry,
Yn plygu fel bwa o'r nef tua'r lli,
A'r gwyntoedd yn tynnu, a'r rhaffau yn torri bobtu.
Clyw! Syrthiodd yr hwylbren fel taran i'r tonnau,
A chwydda y môr tua ffordd y cymylau,
A chyfyd y tonnau yn wlad o fynyddoedd,
A rhyngddynt eigionau o wyrddion ddyffrynnoedd,
Fel gwlad o fynyddoedd ystormus a gwynion,
Ar lef y ddaeargryn yn llamu o'r eigion,
Gan symud ymlaen gyda mil o gymylau,
Yng nghanol ardderchog gôr y taranau.