Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

UFFERN

O! Y dorf
Y cauwyd yma arnynt, heb i waedd
Nac adsain godi i rybuddio 'r byd.
Byth nid oes neb yn dychwel trwy y bedd,
I adrodd ffawd yr ynfyd aeth i lawr
Ar ddylif o bleserau. Mae y byd,—
Sy'n fflamio trwy ei greigiau geirwon byth,
Heb wlith ond gwaed y damnedigion tru
Yn rhuddo brig y fflam, a'u damniol chwys,
Wrth lusgo 'r gadwyn farnol drom,—
Yn ymgaledu yn y dwyfol dân
Yn gyfan byth i losgi, a'r ffordd o'i ol
Trwy ddyfnder tragwyddoldeb byth yn fwg.

Y wlad anaele hon, mae'n nos i ni;
A chauadlenni 'r cnawd, a thrwch y bedd
A'i holl gysgodion, rhyngom. Acw gwel,
Ar ddibyn tywyll amser, Angau erch,—
Ag oesoedd o fynwentau tan ei draed,
A'r ffordd y sanga'n agor ar ei ol
Yn ddyffryn maith di-wawr o feddau,—gwel
Y gelyn erchyll ar ei ddidrain fainc,
Oddiar adfeilion cenhedlaethau fil,
Yn hyrddio eu harswydlawn floeddiau'n ol
Fel taran fyllt oddiar ei darian drom,
Yn ol i ganol uffern, rhag i neb
Eu clywed, a deffroi cyn llamu dros
Ael amser i'r eigionau dieithr draw,
Sy a'u tonnau a'u tymhestloedd geirwon oll
Yn chwythu tua'r pell dragwyddol draeth,
Y traeth o dân tragwyddol, lle y mae
Y tonnau'n llifo'n dân o stormus for
A rhuddgoch lanw uchaf farnau'r Nef.