Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL Y MOR TUA'R LAN

FEL y môr tua'r lan, fro hawddgar fy nhadau,
Y chwydda fy nghalon tuag atat ei llanw 'o
aiddgar deimladau.

O froydd fy nhadau, mae'r geiriau yn taflu
Y galon i'r llaw, a'r ysgrifell bron gwaedu
Ei geiriau ar bur dudalennau yr awen
Fod neb yn dirmygu ei balm froydd addien;
Ah! Deffry yr enw adgofion fil miloedd,
A mawrwych weithredion o feddau yr oesoedd.

Clyw adsain ryfelgar y gad ar ei bryniau
Yn chwyddo i lawr ar awelon yr oesau.
Pan fyddai y gelyn yn duo ei glynnoedd,
Ac anadl rhyfel o fewn ei dyffrynnoedd,
Fe welid ei lluoedd, fel gwaedlyd ystormydd,
Yn rhuthro o'i bryniau, yn dysgub ei broydd.
Mor llawen y gwaedent ar allor eu gwlad,
Y plannent eu baner ar ddrylliau y gad;
Nid rhwyddach y llif ar yr afon o'r bryn
Na'r gwaed cyfoethocaf o'r galon bryd hyn;
Fe blygai ei broydd dan sang y gormeswr,
A'i blodau a wywent ar fedd y gorthrymwr.

Ai mawredd amgaeru dy wlad â chleddyfau,
A chodi y cleddyf i wyneb yr oesau;
A chynnal y gwyldân ar fil o fynyddoedd,
A'u gwawr yn goleuo pellderoedd y moroedd;
A medi tyrfaoedd fel rhuddgae o yd
Dan waedwawr grymanau y rhyfel a'i lid,—
Fy Nghymru! Ai dyma y pennaf fawreddau?