Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NID YW HWNNW MWY
Y MAE y galon yn pruddhau,
A thristwch fel y bedd
Yn taflu ei gysgodion dros
Nefolion leoedd hoen a hedd,
Pan gyfyd eu hysbrydion hwy,
Fel rhithiau eilfyd ar y gwynt,
Ddygasant drosom lawer clwy,—
Y gorwych dadau gynt;
Sy bron, bron eu hanghofio mwy,
A niwl ebargof am eu hynt
Yn prysur, brysur ymgrynhoi;
A'u dydd o lwyddiant,
A theg ogoniant,
I dir machludiad amser, y tywyll dir, yn ffoi.

Pan gwympo un o'u mawrion hwy,
Cenhedloedd beilch y byd,
Lle cwympodd plennir llawryf mwy
A thyf yn bren o erfawr led a hyd;
A than ei gar gau
Dros bell oesau,
A than ei feilch gysgodion pletha'r beirddion
Eu tyner odlau a'u coronau heirddion ;
Llewyrcha'r bedd fel gorsedd o ogoniant,
O gylch eu meddyl-ddrychau fel ser-orielau hongiant,
A throsto eu moliannau fel ser gawodydd gwlawiant.
Ac oes ar oes a heibio gan ymgrymu,
Gan ddyfrhau gor-danbaid flodau mawl ;
Ac nid yw Adgof yno yn pendrymu,
Na Haeddiant flaen un oes yn llaesu ei hawl.