Y Diluw
YMAFLA'R ddaeargryn yn echel y byd
A detyd, a chawraidd ysgydwad,
Graig-gloion y dyfnder i gyd ;
Ac nid oes un seren faidd edrych i lawr
Ar ddifrod y diluw, y Diluw Mawr.
Agorwyd llif-ddorau y nefoedd bryd hyn,
A milfil o reieidr ysgydwent y byd ;
A threuliai'r llifeirieint lechweddau y bryn,
Nes ydoedd o agwedd yn greigiau i gyd.
Ust! Glywch chwi y waedd sydd yn rhwygo y ne,
Gwaedd tyrfa aneirif ar ael Himaleh?
Distawodd y daran am ennyd, a'r aig
Am ennyd orffwysodd, a sychodd y graig ;
Hi sychodd am ennyd. Ah! Cododd y weilgi,
A chuddiwyd y graig a'r dyrfa oedd arni.
O ben y bryniau clywaf ru y bleiddiaid
Ynghymysg â'r ystorm, a llewod diriaid
Yn curo'u hochrau a'u cynffonnau enbyd
Nes adsain trwy orielau'r holl awyrfyd.
Clyw, drwst y tân-fynyddoedd yn y dyfnder,
Mae'r môr yn berwi i aruthrol bellder,
O'u hamgylch. Mae colofnau'r byd yn plygu,
A'r Ddaeargryn ei hun
Dan faich y Diluw 'n crynnu.
Rhag twrf y rheieidr ymbellha y nef,
A thry y lloer yn ddistaw yn ei rhod,
Dan ddal ei hanadl. Haul ni welir mwy.
Ac nid oes seren yn anturio i wydd
Y difrod maith. Ar uchelfannau'r nef
Ni chyfyd un ei lamp uwchben y drych.