Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DILUW TAN

DYRCHAFA yn uwch, ysbrydoliaeth awenber,
Mae grisiau datguddiad yn codi bob llaw;
Dring! Dring oni welot derfynau pell amser
A chyrrau yr oesoedd yn fflamio draw.

Fel gwig o flaen corwynt ymgryma y nefoedd,
A phlygir ei chedyrn golofnau;
A threnga y dydd, a thywyll yw'r bydoedd,
Aruthr gymylau.

Mae y Barnwr, y Barnwr Jehovah yn ymyl,
A'r nef yn addoli yn wylaidd bob llaw,
Fe ddygir ei faner gan fil myrdd o engyl
Dros y bryniau tragwyddol sy'n gwawrio draw.

Cyffyrddodd Jehovah â'r bryniau, a mygant,
A fflamia'r cymylau o amgylch ei sedd ;
Llefarodd, a'r holl genhedlaethau ddihunant,
A'r ddaear gynhyrfir i lawr hyd y bedd.

Llefarodd-am oesau fe glywir yr adsain—
Ac fe ofnodd y dydd anfon allan ei gerbyd;
Mae'r wawr wedi agor uchel-borth y dwyrain,
Ond tywyllodd yr haul i'w ganol-bwynt, a
mwyach,
O mwyach, ni chyfyd.

Fe ffy y mynyddoedd ar dân i'r cymylau,
Nes syrthio'n garneddi llosgedig i'r aig ;
A fflamia coedwigoedd y byd yr un borau
I lawr hyd eu gwreiddiau tan gloion y graig,