Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bendith anrhaethol i Lanelli a sir Gaerfyrddin oedd cael ei fath pan y sefydlodd ynddi ; a bendith fawr fyddai i bob sir yng Nghymru yn awr gael rhywun ynddi o gyffelyb feddwl iddo.

Mr. Joseph Evans, Capel Seion, oedd tywysog y sir fel pregethwr yn ei arddull arbennig ef, yn yr adeg honno. Nid oedd neb yn sir Gaerfyrddin y gwnaethum gymaint ag ef yn ystod yr wyth mlynedd a mwy y bum yno ag a wnaethum a Mr. Evans. Dyn o athrylith ac arabedd, yn llawn synwyr cyffredin, ac un o'r rhai cymhwysaf i roddi barn deg ar bob achos a ddygid o'i faen; ond ei fod yn rhy lwfr a meddal i gario allan ei argyhoeddiadau os meddyliai fod perygl. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf diniwed, ac ni wnelai gam a'r distadlaf. Fel pregethwr y rhagorai. Nid oedd cylch ei ddarlleniad ond cyfyng, ac felly nis gallai ei wybodaeth gyffredinol fod yn helaeth. Nid oedd ychwaith yn meddu cyflawnder a helaethrwydd o ymadroddion; ac eto yr oedd ei bregethau at achlysuron cyhoeddus yn ddarnau detholedig. Casglai iddynt dlysion a phrydferthion, ymadroddion coeth a tharawiadol o bob man, a ffurfiai ei frawddegau caboledig yn y dull tebycaf i daro y glust a'r teimlad. Siaradai mewn ryw oslef leddf, ac fel y poethai cryfhai, a byddai ar brydiau yn ysgubol; yn enwedig yn y cylch lle yr oedd ei briod-ddull o lefaru yn adnabyddus. Nid oedd yn ddawn cenedlaethol, oblegid fod cymaint o'r hyn a eilw Sais yn provincialism yn ei arddull. Dyn gwan a meddal ydoedd ymhob cylch, yn ei deulu. a'r eglwys, fel yn y cyhoedd. Trwy ddylanwad ei gyfaill a'i gyfoed Mr. Rees, Llanelli, pan gychwynodd dirwest ymunodd â hi, a bu yn ddirwestwr