Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn a ofynnid iddynt, ac ni byddai llawer o siarad yn y lle gan neb. Ond weithiau deuai ambell un pur siaradus heibio, yn enwedig pregethwyr y De. Arhosid weithiau ar ol wedi i'r pregethwr fyned, a'r pryd hynny byddai y siarad yn bur rhydd, a denai Shon Dafydd ymlaen,—yr hwn hyd hynny a gadwai yn ol heb ddyweyd gair—oblegid nid oedd neb mor barod i rythu ei farn ar bawb a phopeth.

Yn yr adeg yr oeddwn i gyda Dafydd Llwyd yr ailadeiladwyd ac yr helaethwyd capel Bangor, Gwnaed hynny yn 1834. Yn y flwyddyn honno y dechreuodd fy mrawd bregethu. Ni phregethodd erioed yn yr hen gapel, ond yr wyf yn ei gofio yn dda, ychydig cyn chwalu y capel, yn myned i fyny i'r pulpud, o flaen John Jones, i ddechreu yr oedfa. Dyna y tro cyntaf erioed y gwelais ef yn myned ir pulpud, ac yr wyf yn cofio y munud yma y teimladau a aeth drosof pan welais ef. Yr oedd wedi pregethu, yr wyf yn meddwl, cyn hynny yn Caerhun ar un nos Sabboth, neu wedi bod yn esbonio dameg y Mab Afradlon, a'r unig gof sydd geonyf am hynny ydyw imi glywed iddo fod yn hir iawn. Yn yr adeg yr oedd y capel ar lawr pregethid y bore yng Nghapel yr Anibynwyr, a'r hwyr yn yr awyr agored, oddiar hen gerbyd, yng ngwaelod Cae'r Deon. Yno pregethodd fy mrawd fwy nag unwaith. Clywais William Morris Carmel, Rhuddlan wedi hynny, yn pregethu yno oddiar y geiriau,—"Yr holl ddaear yn aros yn llonydd." Clywais John Jones yno yn pregethu oddiar y geiriau,—"Na thwyller chwi, ni watworir Duw." Ac ar y diwedd rhoddodd fy mrawd allan bennill a gyfansoddwyd ganddo ar y pryd.