Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dywedent bob drygair y naill am y llall. Dygwyd yr achos i brawf o'r diwedd, a diarddelwyd y tri a ystyrrid yn flaenoriaid y terfysg o bob ochr, sef Dafydd Roberts—yr hwn oedd yn bregethwr—William Griffith, teiliwr, a William Davies, llyfrwerthwr. Ni buaswn yn crybwyll am y rhai hyn oni bai fy mod am gael cyfle i ddweyd mai anfantais ddirfawr i fachgen yw cael ei fagu yn swn dadleuon a chwerylon crefyddol. Er na chlywais odid air erioed am hyn ar yr aelwyd gartref, ac er na ddeallais i sicrwydd hyd y dydd hwn pa ochr yn y ddadl a gymerodd fy mam a mrawd hynaf—yr unig rai o'r teulu oedd yn gyflawn aelodau ar y pryd; eto yn y siop dadleuid yr holl gwestiwn, gwyddid yr holl achwynion, ac adroddid yr holl ganeuon, er y ceisid hefyd ofalu na byddai i neb o'r rhai oeddynt yn ddieithriaid hollol i'r enwad wybod. Shon Dafydd oedd un o'r rhai amlycaf yn a cweryl, a bum yn synnu lawer gwaith pa fodd y diangodd ef rhag bod ymysg y diarddeledigion. Ond yr wyf yn sicr fod y cweryl wedi gwneyd niwed mawr i lawer o feddyliau.

Yr oedd y Cyfarfodydd Cymedroldeb yn cael eu cario ymlaen yn rheolaidd. Mr. Cotton—Deon Bangor wedi hynny—Dr. Arthur Jones, a mrawd oedd yn blaenori ynddynt; ond yr oedd yno nifer fawr fyddai yn arfer eu dawn yn achlysurol. Ni wnaed trwy y gymdeithas y daioni a ddisgwylid, oblegid ei bod yn caniatau yfed yn gymedrol y ddiod oedd yn fwyaf o fagl. Mai 5ed, 1835, daeth Robert Williams, teiliwr o Liverpool, i ysgoldy y Tabernacl, lle yr oedd fy mrawd erbyn hynny yn cadw ysgol, i areithio ar Lwyrymataliad. Siaradwr