Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd yn yr wyl, wedi dod o Rhydlydan, ac i ddychwelyd i Rydlydan y noson honno i areithio ar y Genhadaeth. Yr oedd Athrofa y Bala wedi ei hagor, ac yntau yno yn un o'r myfyrwyr cyntaf, ac yn llawn ysbryd cenhadol. Daethai Evan Thomas—Dinbych wedi hynny—a rhyw rai eraill, drosodd gyda Mr. Robert Thomas o Bentre Foelas, a John Jones, Hafod-tad Father Jones, Caernarfon—gydâ Mr. Thomas Jones; a chan fod yr anifail ar yr hwn y daethai Mr. Thomas yn dychwelyd heb farchogwr, cymhellwyd fi i ddychwelyd gyda hwy, ac felly fu. Gan fod eisiau rhywun i gadw ysgol yn Rhydlydan, cymhellwyd fi i fyned yno, a chydsyniais. Bum yn aros ychydig ddyddiau yn yr Hafod, a dychwelais i Fangor gan feddwl myned yno yn fy ol; ond am ryw reswm, nas gallaf yn fy myw ei gofio, ni ddychwelais. Mae rhyw argraff ar fy meddwl fod y dyn oedd yn byw yn Nhy Capel Rhydlydan yn ddyn trahaus iawn, a chan mai gydag ef yr oeddwn i letya, rywfodd nid oedd awydd arnaf i ddychwelyd yno.

Gwahoddwyd fi i gyfarfodydd dirwestol tuag Abergele, ac yr wyf yn cofio fy mod mewn gwyl yno, a Iorwerth Glan Aled oedd yr ysgrifenydd a'r rheolwr. Bu Iorwerth a minnau yn areithio yn Moelfre a Phenbryn Llwyni, a bum i yn Rhuddlan a Rhyl Nid oedd Rhyl ond lle bychan yn cychwyn. Dywedodd John Jones, Rhyl, wrthyf y buasai Prestatyn yn lle da iawn i gadw ysgol, a bod eisiau rhywun yno. Cefnogodd William Jones, Rhuddlan, fi i fyned yno. Gelwais gyda William Hughes y Gof, a galwodd yntau y pennau teuluoedd ynghyd. Cwynid ei bod yn ddiweddar