mod innau o'r un ysgol; ond yn ffodus, pregethais oddiar y geiriau,—"Yr Arglwydd sydd yn teyrn- asu," a boddheais ef yn fawr. Nid oeddwn wedi defnyddio y gair "llywodraeth foesol," ond wedi cadw at yr hen ymadrodd iachus, "llywodraeth rasol." Yr oedd John Jones, Tyddyn Difyr, fel Sion Wyn, yn Galfiniad uchel, ond nid mor ddeallgar, ac yn llawer mwy trahaus. Hen Fethodist ydoedd, wedi ymrafaelio â'r Methodistiaid, ac wedi codi Capel Anibynnol. Efe oedd yn cynnal yr achos, ac efe oedd yn lladd yr achos. Digwyddais basio yn ffafriol gyda'r un bregeth yno hefyd y tro cyntaf, er i mi bechu yn ddirfawr pan aethum yno yr ail waith, fel y caf eto, hwyrach, achos i grybwyll. Yr oedd y gwarcheidwaid hyn i'r athrawiaeth i'w cael yn aml yn y dyddiau hynny; ond y mae y to hwnnw oll wedi mynd, ac nid mantais i gyd yw hynny.
Daethum i Tabor yn gynnar y prydnawn yr oeddwn i fod yno; yn gynarach nag yr oedd Betty yn fy nisgwyl, ac yr oedd hi yn brysur yn gwnio i rywrai oedd yn disgwyl am dani. Cefais ganddi bob croesaw; ac wedi pregethu, a siarad â Mr. Robert Jones, Bron y Gadair, a John Pierce, penderfynwyd, gan fod cynhaeaf eisioes wedi ei gael, mai gwell oedd i mi ddechreu yr ysgol yno y Llun canlynol. Yr oedd hyn tua dechreu yr ail wythnos yn Hydref. Lletywn yn Nhŷ'r Capel, lle y cefais bob ymgeledd, a gwelais bawb drwy yr ardal yn garedig iawn. Torrodd yn ddiwygiad crefyddol mawr drwy y wlad oll, a chafodd Tabor gymaint o'r gawod ag un lle. Byddwn yn myned i rywle i bregethu bob Sabboth