nos Sabboth, Gorffennaf 12, 1840. Yr oeddynt hwy yn eiddigeddus o'u gilydd, oblegid credai John Morris a Robert Thomas fod Edward Roberts a Ieuan yn cael mwy na hwy; a chredai Ieuan na ddylasent hwy gael dim, oblegid eu bod yn arfer tybaco. Nid oedd, am amser, brawf diamheuol o hynny ychwaith. Un diwrnod, daeth Ieuan o'r ystafell gefn, i'r ystafell ffrynt, lle yr oedd Rowland Hughes ac Edward Roberts a minnau, a dywedai fod John Morris yn cnoi tybaco, ac iddo weled joi yn ei geg y pryd hwnnw. Aeth â ni i'r ystafell gefn. Cyhuddid John Morris gan Ieuan, ond gwadai hwnnw yn bendant. Taflwyd ef ar y gwely, a phenderfyn- wyd agor ei safn. Yr oedd Rowland Hughes yn gwff o ddyn cryf, a bu raid i Robert Thomas roddi help llaw pa faint bynnag o gydymdeimlad oedd rhyngddo â John Morris. Daliwyd y cyhuddedig yn llonydd, agorwyd ei enau, a rhoddodd Ieuan ei fys i mewn, a thynnodd y joi dybaco allan, fel y cafwyd prawf diymwad. Yr oeddym oll yn mwynhau yr helynt, ond prin yr oedd yn foddlawn heb gael sychu y joi dybaco a'i hanfon i Olygydd y Dysgedydd. Yr oedd ei lymder yn eithafol.
Ni bu John Morris yno yn hir wedi hynny, ac ymadawodd Robert Thomas yn fuan; ac yr oedd Edward Roberts yn dechreu ei gwrs yn Aberhonddu ym mis Medi. Ymadawodd Rowland Hughes o gylch yr un amser, ac yr oedd iechyd Mr. Jones, yr athraw, yn gwaelu yn fawr. Gan nad oedd yno bellach ond Ieuan a minnau, yr oeddym allan bob Sabboth yn gwasanaethu yr eglwysi. Elem i Benllys un Sabboth. Pedwar