Tudalen:Gwaith John Thomas.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddiaconiaid,—un honynt yn daid i'r Parch. R. James, Llanwrtyd,—yn drwyadl ffyddlon; a nifer fawr eraill nas gallaf gofio eu henwau; ond yr oedd perthynasau y ddau bregethwr a rhyw ychydig eraill heb fod yn ffafriol. Yr oedd yno ychydig o wragedd Capteniaid yn cymeryd cryn ran yn y llywodraeth: un o honynt yn arbennig oedd Mrs. Rowlands, yr hon a briododd a'r Parch. Samuel Thomas. Nid oedd hi gartref pan aethum yno, ac ni ddaeth nes oeddwn ar fin ymadael. Yr wyf yn meddwl mai tueddu i ffafrio y pregethwyr yr oedd hi. Pa fodd bynnag, gwrthodais iddynt roddi yr achos ger bron yr eglwys, nad arhoswn er neb gan nad oedd yno unoliaeth, ac enillais drwy hynny gymeradwyaeth cyffredinol. Ond wedi gweled pethau felly, teimlwn yn bryderus iawn. Yr oedd fy amser i ymadael wedi dyfod, ac nis gwyddwn pa le i droi. Nid oeddwn am fyned yn ol i Ffrwd y Fâl, ac nid oedd un drws yn ymagor o'm blaen, fel yr ymddangosai fy ffordd yn cau mewn tywyllwch.