Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mynegai'r Beibl.
P. Pa le y cafwyd mynegai'r Beibl?
T. Dywedir mai Archesgob Usher a'i casglodd ynghyd o hanesion eraill, ac i'r Esgob Lloyd, yr hwn a enwyd o'r blaen, dalfyrru hwnnw a'i drefnu er mwyn ei roi yn y Beibl Saesneg, ac iddo gael ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Mr. S. Williams.[1] Mae hefyd yn y Beibl hwn ychwaneg o ysgrythyrau ar ymyl y ddalen. O herwydd y pethau hyn gelwid ef yn gyffredin "Beibl Moses Williams."
S. P. C. K.
P. Pa bryd, a pha fodd y dygwyd hwn trwy'r argraffwasg?
T. Mae cymdeithas o wyr cyfoethogion a haelionus yn Llundain dan yr enw isod.[2] Mae'n debyg mai ar eu traul hwy yn bennaf y bu'r argraffiad hwn, a ddaeth allan yn 1718,[3] a Mr. Morris Williams yn gofalu am yr argraffwasg.
- ↑ Historical Account," P. 35. 52.
- ↑ The Society for promoting Christian Knowledge."
- ↑ Mi a debygwn i'r Beibl hwn ddyfod allan ar ddwy waith. Mae gennyf fi un o honynt, heb y Llyfr Gweddi Gyffredin, na'r Canonau, na'r Apocrypha, a dywedir i hwn ddyfod allan yn 1717. Ac y mae'r geiriau canlynol ar ei glawr, tu fewn,The gift of Caleb Avenant, Gent., late of Shelsley, in the County of Worcester, deceased." Mae Dr. Llewelyn yn nodi ("Historical Account," P. 54) i'r Gymdeithas ganiataui eraill roi arian tuag at y Beiblau, gan addo cynifer o lyfrau ag atebai i'w harian, ar bris penodol. Mae'n debyg i Ymneillduwyr haelionus roi arian i'r diben da hwn, ac iddynt ddewis cael eu Beiblau heb y Llyfr Gweddi Gyffredin a'i berthynasau, ac heb yr Apocrypha; o herwydd hyn mae'n debyg iddynt hwy gael eu Beiblau o flaen y lleill, ac mai hynny oedd yr achos i'r Beibl a sydd gennyf fi, ac eraill, ddyfod allan yn 1717. Edrych, hefyd, "Historical Account," pp. 52, 54