fu yn 1714. Yr oeddid yn bygwth yr Ymneillduwyr yn chwerw yr amser hynny. Ond rhagflaenodd Duw hynny, yn ei fawr drugaredd, trwy farwolaeth y frenhines Ann, a dyfodiad George y cyntaf i'r deyrn-gadair. Cafwyd llonydd rhagorol o'r pryd hwnnw hyd heddyw.
Moses Williams.
P. Pa bryd yr argraffwyd y Beibl nesaf yn yr oes hon, sef wedi 1700?
T. Ar fyrr wedi dyfodiad y brenin George, aeth gwr cymwynasgar o Eglwys Loegr ynghyd a'r Beibl i'w barotoi tuag at ei argraffu drachefn, sef Mr. Moses Williams, Ficar y Ddyfynnog, yn sir Frecheiniog, gwr dysgedig ydoedd, ac yn deall Cymraeg yn dda.
P. Beth a wnaeth ef o barotoad ar y Beibl i'w argraffu?
Beibl Moses Williams.
T. Yr oedd y Beibl o'r blaen wedi ei argraffu gan mwyaf trwy ofal yr Ynineillduwyr, oddieithr y rhai oedd i'r llannoedd; gan hynny nid oedd ynddynt ond Gair Duw, ystyr y bennod, ysgrythyrau ac agoriad ambell air ar ymyl y ddalen, a'r Psalmau cân. Ond darfu i'r gwr hwn o Eglwys Loegr roi oes y byd ar ben y ddalen, dosbarthu y Psalmau yn foreuol a phrydnhawnol weddi, a'r amser priodol i ddarllen amryw rannau, yn ol trefn gwasanaeth Eglwys Loegr, yr oedd y Llyfr Gweddi Gyffredin yno a Chanonau Eglwys Loegr. Yr oedd yr Apocrypha yn yr argraffiad hwn hefyd; a mynegai'r Beibl, amryw dablau, hymnau a gweddiau yn y diwedd: a diwygiad ysbeliad yr iaith hefyd.