Mae son am ddiwygiad yng Nghymru a Lloegr yn yr amser hynny; ond y mae rhai yn ei ddyrchafu ormod, a rhai yn ei ddiystyrru ormod.
Dyrchafu gormod.
P. Pwy sydd yn ei ddyrchafu ormod?
T. Y rhai sydd yn meddwl nad oedd fawr neu ddim crefydd o'r blaen ymhlith y Cymry. Os dewisant farnu mai Mr. Griffith Jones ei hunan oedd yn wir grefyddol yn Eglwys Loegr; eto yr oedd llawer o wenidogion, ac eraill o ddynion duwiol enwog yng Nghymru, o'r Bedyddwyr ac Ymneillduwyr eraill, gant o flynyddau cyn hynny, rai o honynt, ac wedi bod yn orchestol iawn a defnyddiol. Yr oedd amryw o wyr rhagorol yn eu plith o gylch 1736, ac eraill wedi meirw yn ddiweddar.
Diystyrru gormod.
P. Pwy ydyw y rhai sydd yn diystyrru'r diwygiad hwn ormod?
T. Rhai nad ydynt yn edrych arno ddim ond rhyw benboethder ac anrhefn. Felly mae'r naill yn edrych arno yn rhy berffaith, a'r llall megis dim, neu waeth na hynny.
Barn yr Awdwr.
P. Beth ydych chwi yn feddwl yw'r gwirionedd?
T. Yr wyf yn meddwl i ddiwygiad mawr dorri allan yn Eglwys Loegr o gylch 1736, a dechreu cyn hynny yn Lloegr a Chymru; ond am yr olaf yr wyf fi yn son yn fwyaf neillduol.[1]
- ↑ Dichon rhai ddywedyd yma, yngeiriau gwr arall ar y cyffelyb achos, nad oedd er amser y diwygiad un lle yn rhagori ar Gymru o ran cadw yn fanol at ddefodau a gwasanaeth Eglwys Loegr, yn sylwedd a dull eu haddoliad ("History of Wales," printed in 1702, P. 328. ) cyn amser Mr. G. Jones, a'r rhai a'i canlynodd. Wedi ystyried ychydig o bethau amgylchiadol, hawdd iawn yw deall y geiriau hyn a'u cyffelyb. Nodwyd yn barod fod Mr. Moses Williams, ac amryw eraill o weinidogion Eglwys Loegr wedi bod yn ddiwid iawn i argraffu'r Beibl, i gyfieithu ac argraffu llawer o lyfrau da eraill wedi y flwyddyn 1700. Yr oedd y pethau hyn yn ddefnyddiol iawn yn eu lle; ond tybygid fod eisiau mwy o bregethu yn yr eglwys hon yr amser hynny. Er fod Gair Duw a llyfrau da eraill yn fuddiol iawn i'w darllen; eto yn gyffredin pregethiad bywiol yr efengyl sydd yn cael ei arddel er argyhoeddi, diwygio, ac achub dynion. Pregethwr anghyffredin yn Eglwys Loegr oedd Mr. G. Jones. Yr wyf fi'n gobeithio fod yno weinidogion duwiol eraill, yr amser hynny ac yn gynt. Ond hyn sydd sicr, anwybodaeth ac annuwioldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl. Ac os byddai un yn fwy gweddus na'r lleill, gelwid ef yn fuan yn Bresbyteriad, neu yn un o'r Ailfedydd. Ond wedi'r cyfan, os dichon neb brofi fod erioed ymhlith y Cymry o Eglwys Loegr weinidogion ac eraill, gymaint, neu fwy, o wir grefydd, addas foesoldeb, a grym duwioldeb, a mwy o ddeall, pregethu, a rhodio yn ôl erthyglau yr Eglwys honno, cyn amser Mr. G. Jones, nag a fu wedi hynny, bodlon iawn wyf fi. Nid wyf am wneyd cam a neb. Ac nid wyf yn dewis dywedyd y gwaethaf am neb. Mewn llawer o bethau yr ydym oll yn llithro.