Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Howel Harris.
P. Pa fodd y dechreuodd ef yr amser hynny, heb law yr hyn oedd o'r blaen?
T. Nid sicr iawn wyf fi o ran y flwyddyn, ond o gylch y blynyddau hynny, dechreuodd Mr. Howell Harris fyned allan yn sir Frecheiniog, i gynghori'r cymydogion yn achos eu heneidiau, efe a gynhyddodd mewn dawn a deall, ac aeth allan i siroedd ereill. Yr oedd llawer iawn o ieuenctyd Cymru, ac eraill, yn gwbl ddigrefydd, yn arfer cyfarfod i ddawnsio, meddwi, a difyrru eu hunain, a'u gilydd, â rhyw ddrygioni. Yr oedd