y cyfryw rai gan mwyaf oll yn cyfrif eu hunain o Eglwys Loegr. Pan ddaeth Mr. Harris o gylch y wlad, taranu yn ofnadwy yr oedd yn erbyn tyngwyr, rhegwyr, meddwon, ymladdwyr, celwyddwyr, torwyr y Sabboth, a gwrychioni tân uffern, mewn ystyriaeth, yn eu plith. Byddai ef yn cynghori mewn tai, ac yn y meusydd, ni fyddai waeth ganddo ef pa le, os cai bobl i wrando; fel y buasai Mr. Walter Cradock, Mr. Vavasour Powel, ac eraill ar hyd Cymru, o gylch can mlynedd o'r blaen. Ond yr oedd hyn yn beth newydd iawn yn ein dyddiau ni; gan hynny casglodd llawer iawn i wrando; ac o gylch yr
Daniel Rowland.
un amser, neu yn fuan wedyn dechreuodd Mr. Daniel Rowland, gweinidog o Eglwys Loegr yn sir Aberteifi, bregethu mewn ffordd anghyffredin iawn yn Eglwys Loegr. Yr wyf yn cofio i mi ei glywed o gylch 1737, yn sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando, ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref; yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Mr. Griffith Jones.
Williams Pantycelyn, Peter Williams, Howel Davies.
Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni ymhlith pobl yr Eglwys." Ar fyrr daeth allan Mr. William Williams a Mr. Peter Williams, yn sir Gaerfyrddin, a Mr. Howel Davies, yn sir Benfro y rhai hyn oll yn weinidogion Eglwys Loegr, ac amryw ereill o honynt ar hyd Cymru. Yr oedd Mr. Harris o'r Eglwys honno, ond nid