rhwyddineb i weled y gwaith wedi ei orffen. Gan fod y llyfr mor gyffredin trwy'r wlad, nid oes achos nodi mor gyflawn ydyw bob ffordd. Rhoddes Richard Morris, Esq., yr hwn a fu mor ddefnyddiol, yn gofalu am yr argraffwasg yn y 1746 a 1752, ddau fap i harddu Beibl Mr. Peter Williams. Felly trwy fawr ddaioni Duw mae Cymru yn llawnach o air yr Arglwydd er 1770 nag y bu erioed o'r blaen. Ni bu gyffelyb y fath gyflawnder o'r Ysgrythyr ymhlith y Cymry er dechreu'r byd." [1]
Beibl yr Eglwys Brydeinig.
P. Pa fodd y gwyddoch nad oedd mor gyflawn yn yr oesoedd cyntaf cyn dyfod yr erledigaeth, a chyn dyfod y Saeson i'r wlad.
T. Hawdd iawn yw casglu nad allai fod mor gyflawn yr amser hynny, canys nid oedd ond ysgrifenlaw i'w gael, ac ni wyddom ni pa hyd y buont heb gael y Beibl yn ysgrifenedig yn
- ↑ Mae'r Beibl a argraffwyd yn 1769 yn frasach ei lythyren na'r rhai o'r blaen; ac oblegid hynny yn fwy o faintoli. O herwydd hyn gadawyd allan y cwbl ag oedd yn y rhai o'r blaen, ond yn unig yr Ysgrythyr ac ystyr y bennod, a gosodwyd yr Ysgrythyrau oedd ar ymyl y ddalen o'r blaen, ar odreu'r y ddalen yn hwn. Nid oes ynddo ddim Psalmau cân. Heb law'r Ysgrythyr a'r sylwadau ym Meibl Mr. Peter Williams mae yn ei ddechreu ei lythyr ef at y darllenydd; yna un ddalen yn dangos swm yr Ysgrythyrau; yn nesaf, erthyglau crefydd Eglwys Loegr; rhai holiadau ac atebion mewn perthynas i'r athrawiaeth o Ragluniaethad: yna mynegai'r Beibl. Wedi hynny Llithiau, Calender, a Thabl y Llithiau, yn ôl trefn gwasanaeth Eglwys Lloegr. Tabl y Pasg, a Thabl y gwyliau symudol. Hyn oll yn y dechreu. Yn y diwedd mae'r Tablau oll ag sydd yn y Beibl 1746: a Tablau Oesoedd y byd wedi eu chwanegu, o waith Dr. Lightfoot. Y Salmau cân a'r Hymnau fel o'r blaen; eithr gadawyd y gweddiau yn y diwedd allan oll, ond yr un olaf.