Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymraeg, canys er fod llawer o'r Cymry mor gynnar yn Grisnogion, eto yr oedd llawer o honynt yn parhau yn baganiaid hyd nes bedyddio y brenin Lles ab Coel o gylch y flwyddyn 160, medd rhai, neu 180 medd eraill, pa fodd bynnag y bu wedyn. Dywedir fod yr enwog Beda, yn un o groniclau Lloegr, yn dangos fod yr Hen Destament a'r Newydd gan y Brutaniaid yn amser y brenin hwnw[1] Dywedir hefyd i'n cydwladwr urddasol, Cystenyn Fawr, beri ysgrifennu'r Beibl a'i ddanfon i bob teyrnas o'i ymerodraeth, ac odid nad oedd yn gofalu am wlad ei enedigaeth.[2] Ond er hyn oll odid fod yn yr holl ynys y pryd hynny un Beibl am ddeg mil ac sydd yn awr ymhlith y cyffredin bobl yng Nghymru yn unig.[3]

Hanes Argraffu.

P. Ai peth diweddar gan hynny yw argraffu?

T. Ie, diweddar iawn. O gylch 1450 yr argraffwyd y llyfr cyntaf yn y byd, meddant, yn Germany. Danfonodd Harry'r Chweched, yr hwn oedd frenin yn Lloegr yr amser hynny, wyr

  1. "Oes Lyfr," tu dal, 60.
  2. Tu dal. 65.
  3. Mae William Salesbury, yn ei lythyr at y frenhines, o flaen y Testament Newydd cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg yn 1567, yn nodi, er ei fod ef yn deall fod gwir grefydd wedi bod yn flodeuog ymhlith yr hên Gymry yn yr oesoedd gynt, eto nad oedd ef wedi gallu casglu eu bod erioed wedi cael Gair Duw mor gyflawn a chyffredin i'w plith ag yr oeddent pryd hynny er nad oedd ganddynt ond y Testament Newydd yn unig, a hwnnw yn anaml iawn o'i gymaru â thrigolion y wlad. Eto y mae'r gwr da yn moliannu Duw am y fraint honno; ac yn mawr ddiolch i'r Frenhines, drosto ei hun a miloedd o'i gydwladwyr, am iddi ganiatau iddynt gael cymaint o Air Duw yn iaith ei hunain. O'r Cymry presenol! gwelwch eich braint. Rhodded Duw i chwi helaethrwydd o râs, fel y llanwer Cymru o dduwioldeb a duwiolion.