dros y môr i ddysgu preintio, ac yn ôl y flwyddyn 1460[1] y dechreuwyd argraffu yn Lloegr. Mor fawr a fu'r fendith hynny i'r wlad hon! Gymry! Cymry! ystyriwch eich breintiau presennol!
Cydgordiad y Beibl.
P. Pa fodd y bu y Cymry o ran Cydgordiad[2] i'r Beibl Cymraeg?
T. Yr wyf fi yn meddwl nad oedd un Cymraeg yn y byd dros gan' mlynedd wedi iddynt gael y Beibl yn gyffredin yn y wlad, sef hyd 1730.
P. Pa fodd y cawsant un yr amser hynny? T. Trwy lafur a mawr ofal un o'r Bedyddwyr, sef Mr. Abel Morgan. Mae hanes yng Nhofrestr Mr. Moses Williams am lyfr a elwid "Cordiad yr Ysgrythyrau," a argraffwyd yn 1653. Mae'n bosibl mai Cydgordiad oedd hwnnw. Llyfr bychan ydoedd. Wedi dyfod allan Feibl Caerfyrddin yn 1770, darfu i Mr. Peter Williams ddechreu ar Gydgordiad, yr hwn a eilw ef "Mynegydd Ysgrythyrol." Felly daeth hwnnw. allan yn 1773. Yn hyn hefyd y mae Cymry wedi eu cyfoethogi ymhell tu hwnt i'r tadau gynt.
VI