X. CYMRU YN 1777.
P. A ydyw'r Cymry yn gyffredin yn gariadus tuag at eu gilydd?
T. Dymunol iawn pe byddent yn well nag y maent; ond y maent lawer yn well nag y buant.
P. Onid yw'r naill yn arfer dirmygu'r llall, a'u llysenwi ac felly difrio eu gilydd? Byddai dda gennyf i chwi ddangos dechreu ac ystyr y gwahanol enwau cyffredin yn y wlad, ac mewn rhai llyfrau.
Crefyddwyr 1777
T. Mi amcanaf wneyd hynny cyn rhoi fyny
1 PROTESTANIAID; dywedais yr achos o'r enw, ac ystyr y gair, dechreuwyd ef o gylch 1530, neu flwyddyn neu ddwy yn gynt, medd rhai. Protestaniaid yw Eglwys Loegr a'r Ymneillduwyr oll.
EGLWYS LOEGR; dechreuwyd a sefydlwyd hi trwy gyfraith y tir, o gylch 1534, fel y nodwyd. Cyfrifwyd Cymru yn yr Eglwys hon, am ei bod y pryd hynny dan yr un gyfraith a Lloegr, ond bu llawer iawn o'r Cymry yn Babtistiaid yn hir amser wedi hynny.
3. PURITANIAID; enw o ddirmyg oedd hwn, a roddai Eglwys Loegr ar y rhai na allent gytuno a'i defodau mewn addoliad. Mynnai llawer yn y wlad i'r trigolion yn gyffredin fod yn burach yn eu haddoliad oddiwrth Babyddiaeth; ac yn fwy yn ol y Gair; am hynny mewn ffordd o wawd, galwyd y rheini, Puritaniaid neu Purwyr. Yr oedd y Bedyddwyr, y Presbyteriaid, a'r Independiaid, yn myned dan yr enw hwn fel eu