Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, yn amser y Frenhines Elizabeth ac yn y blaen.

4. YMNEILLDUWYR; yr un pobl oedd ac ydyw y rhai hyn a'r Puritaniaid. ond bod yr olaf yn ddifenwad: a'r llall, yr enw oeddent yn roddi arnynt eu hunain. Mae rhai dynion anwybodus nad ydynt ddim fodlon cyfrif y Bedyddwyr yn Ymneillduwyr neu Dissenters; ac felly y mae rhai anwybodus yn Eglwys Loegr yn anfodlon cyfrif neb o'r Ymneillduwyr yn Brotestaniaid. Ystyr y gair Ymneillduwr yw, eu bod yn neillduo neu yn gwahanu yn eu barn oddiwrth Eglwys Loegr mewn addoliad.

5. PRESBYTERIAID; ystyr y gair yw Henuriaeth, 1 Tim. iv. 14. Wedi hir ddioddef erledigaeth, darfu i rai o'r Ymneillduwyr ymgorffoli yn eglwysi yn ol y Gair, yn oreu ag y gallent gytuno. Ond nid oeddent oll o'r un farn. Yr oedd y Presbyteriaid yn barnu y dylai yr eglwysi gael eu llywodraethu gan yr henuriaid, sef y gweinidogion, ac y gallai amryw henuriaid. ymgynghori a'u gilydd pa fodd i lywodraethu eu heglwysi.

6. INDEPENDIAID; ystyr y gair yw, un yn sefyll arno ei hun, a'i ddiben yma yw hyn. Mae'r bobl hyn yn barnu, fod gan Eglwys awdurdod ynddi ei hun yn ol y Gair, i wneyd yn eu plith eu hunain yr hyn oll a berthyn iddynt fel eglwys; ac nad oes gan un gweinidog arall ddim i wneyd a hwy fel Eglwys. Felly darfu iddynt hwy ymneillduo oddiwrth y Presbyteriaid o gylch 1616. Yr oedd y Bedyddwyr gan mwyaf o'r un farn a'r Independiaid, ac felly yn yr un cymundeb ar y cyntaf, ond yr oeddent yn gwahanu mewn Bedydd.