Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

T. BEDYDDWYR; ystyr y gair yw, rhai yn bedyddio, neu yn arddel Bedydd. Mae rhai yn eu galw Ailfedyddwyr.

P. Pa un o'r ddau enw sydd gywir?

T. Am y rhai sy'n barnu yn eu cydwybodau, fod taenelliad babanod yn wir Fedydd ysgrythyrol, rhaid fy mod i yn Ailfedyddiwr, yn eu barn hwy; canys fe'm taenellwyd yn faban, ac mi a fedyddiwyd mewn oedran. Ond er hyn, nid wyf fi'n barnu i mi gael fy medyddio ond un waith; gan hynny, yr wyf yn cyfrif mai llysenw yw Ailfedydd.

P. Onid yw eich galw chwi yn Fedyddwyr yn cyfrif y lleill yn ddifedydd oll?

T. Mae felly, a hawdd yw deall fy mod i yn meddwl hynny. Pe bawn i yn credu fod eu bedydd hwy yn iawn, mi a fyddwn Ailfedyddiwr yn fy marn fy hun a thrwy ymarferiad. Ond nid wyf ddim yn meddwl fod eraill yn cyfrif eu hunain yn ddifedydd.

P. Pa fodd y gellir galw dynion, mewn ffordd o wahaniaeth yn ddidramgwydd?

T. Yr wyf fi yn galw fy mrodyr a'm cymydogion o wahanol farn, Bedyddwyr Plant, er peidio a'u tramgwyddo; ac am fy mod yn barnu eu bod hwy yn meddwl fod taenelliad yn fedydd, er nad wyf fi yn credu ei fod felly. Minnau a fynnwn iddynt hwythau ein galw ni Bedyddwyr, am ein bod ni yn credu felly; neu ynteu galwent ni Bedyddwyr y crediniol; gallant fod yn ddigon rhydd i hynny, a chadw Bedydd plant hefyd. Ond os dewis neb ein galw Ailfedyddwyr, ac na orwedd un gair arall mor esmwyth ar eu tafod, elent yn y blaen; os niwed sydd ynddo, iddynt hwy y mae, yn fwy nag i ni. Eto, ystyrient, fod gennym yn gwbl yr un sylfaen i'w galw hwy yn