ddifedydd. Ond dylem oll ymddwyn, hyd y gallom, yn ddiachos tramgwydd.
Beiblau ac Eglwysi 1777.
P. Bydd da gennyf os rhoddwch eich meddwl am gyflwr Cymru yn awr.
T. Mi nodais yn barod, fod gair Duw yn y wlad er 1769 a 1770, yn amlach o lawer nag y bu erioed o'r blaen ymhlith y Cymry. Yr wyf yn hollol feddwl na bu erioed ymhlith ein cenedl ni gynifer o bobl dduwiol o Eglwys Loegr, weinidogion ac eraill, er pan y dechreuwyd hi o gylch 1534. Ni bu ymhlith y Cymry gynifer o eglwysi o Fedyddwyr ys mil o flynyddau, beth bynnag oedd o'r blaen. Yr wyf fi yn meddwl hefyd fod Ymneillduwyr eraill mor amled, neu yn amlach nag erioed yn y wlad, er eu bod wedi mawr leihau ys 60 mlynedd ar gyffiniau Lloegr. Mae ganddynt hwy aelodau a thai cyrddau yn y tair sir ar ddeg o Gymru. Mae rhai siroedd heb ddim Bedyddwyr ynddynt wedi ymgorffoli yn eglwysi, er fod eu gweinidogion, yn ddiweddar, yn pregethu ar brydiau yn y siroedd hynny.
Gwybodaeth a moesoldeb.
Yr wyf yn meddwl hefyd na bu erioed, ymhlith y Cymry yn gyffredin, gymaint gwybodaeth o Dduw, a chymaint o foesoldeb yn eu plith; er fod gormod eto yn parhau o anfoesoldeb. Yr wyf yn barnu eu bod yn deall mwy o Saesnaeg yn y wlad nag erioed; eto mae'r Gymraeg wedi diwygio llawer arni wedi 1700, a llawer o lyfrau wedi eu hargraffu yng Nghymru, o bryd i'r llall: ac yn ddiweddar mae argraffwasg da yng Nghaerfyrddin, a rhai mewn amryw leoedd eraill