Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD

Y CYMRO MWYN; Os darlleni y dalennau canlynol yn yr un ysbryd yr ysgrifenwyd hwy, ni ferni di ddim o'r Awdwr yn galed iawn, pe digwyddai i ti ganfod rhai camsyniadau yn yr Hanes. Gwir diragrith yw, "Yr hyn a allodd hwn, efe a't gwnaeth."

Am y Rhan gyntaf; nid yw ond golwg gynnwys gyffredin ar hir amser, er mwyn i'm cyd wladwyr, yn hawdd, ddeall y modd rhyfedd yr ymddygodd y Duw tirion tuag at ein cenedl ni; o bosibl, tu hwnt i'r holl genhedloedd eraill trwy'r byd, yn achos eu heneidiau gwerthfawr: er iddynt fod mewn tywyllwch truenus dros hir oesoedd.[1]

Yn yr ail Ran, rhoddir Hanes y Bedyddwyr yn fwy neillduol. Gan nad amcanwyd y fath beth erioed o'r blaen, ar wn i, yng Nghymru, nid oes un darllenydd deallus a ddisgwyl i'r hanes fod yn gwbl berffaith. Pwy bynnag a ddangoso i mi gamsyniadau, ac a'u profo felly, gan eglur hysbysu yr hyn sydd gywir, byddaf dra diolchgar iddo; ac yn gwbl barod, gobeithio, naill ai i gyfaddef bai, neu i brofi'r gwirionedd.

Mae'n agos 30 o flynyddau er pan y soniwyd wrthyf am ysgrifennu hanes y Bedyddwyr yng Nghymru. Nid hir y bu'm wed'yn cyn dechreu

ymholi, casglu, ac ysgrifennu ychydig. Bu y

  1. Mae Dr. Stillingfleet. Rapin, a rhai awdwyr diweddar eraill yn Dewis barnu i'r Efcngyl gael ei phregethu i'r hen Cymry yn gyntaf gan yr Apostol Paul, neu un o r apostolion; ac nid gan Joseph o Arimathea. Os Dewis rhai eraill farnu yr un ffordd, bodlon wyf fi.