iaid, fel y noda yn ei lythyr o flaen ail argraffiad "Drych y Prif Oesoedd." Mae fe yno yn dywedyd i Babyddiaeth ennill ar ein cydwladwyr, of fesur cam a cham, ac o'r diwedd iddynt lyncu y llyffant yn lân yn 763.[1] Mae fe yn nodi ei fod wedi cael yr hanes o waith Mr. Humphrey Lloyd. Mae gwaith Mr. Lloyd gennyf fi, ac mae'r hanes yno ag sy'n "Nrych y Prif Oesoedd," ond ei fod yn dywedyd 762 ac nid 763[2] Mae Mr. Evans yno yn nodi ymhellach i'r Cymry yn ddiddadl ymroddi yn gwbl i Babyddiaeth tua'r flwyddyn 1000, neu'n gynt. Mae Mr. S. Thomas yn nodi nad ellir dywedyd yn sicr pa bryd yr ymddarostyngodd y Cymry i'r Pab, ond ei fod yn debyg mai o gylch y flwyddyn 1000 y bu hyn. Mae fe yn dal sylw hefyd fod hanes i eglwysi Cymru gytuno i fod dan olygiad Archesgob Caergaint[3] yn 1115.[4] Yma mae Mr. Thomas yn cytuno â Mr. Williams o ran amser, ond nid am y lle. Mae Mr. Thomas yn dywedyd Canterbury, a Mr. Williams yn dywedyn Caergrawnt.[5] Yr wyf yn meddwl iddo ef neu'r argraffydd fod yn wallus yma. Diau gennyf fi mai Caergaint a ddylasai fod. Canys nid wyf yn cofio i mi glywaid erioed am Archesgob Caergrawnt. Ond hawdd iawn oedd i'r fath wall ddigwydd. Ar y cyfan, yr wyf fi yn meddwl hyn, wrth yr hanes a rydd Dr. Godwin, Esgob Llandaf, am Lawrence, Archesgob Caergaint yn y flwyddyn 611, &c., tybygid i'r Cymry dyneru llawer tuag at Babyddiaeth yn yr amser hynny. Mae Dr. Godwin yn dywedyd ymhellach
Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/120
Gwedd