i holl Frydain gydffurfio ag Eglwys Rufain yn amser Theodore, Archesgob Caergaint, yr hwn a fu farw yn 690.[1] Yn ei amser ef yr aeth Cadwalader i Rufain fel y nodwyd.[2] Oddiwrth y pethau hyn gellir casglu i'r Cymry yn raddol droi yn Babistiaid, a'u bod yn gwbl felly cyn y flwyddyn Soo, a rhyfedd oedd iddynt ddal allan cyhyd. Ond y mae'n debyg nad oes dim hanes ysgrifenedig am ddarostyngiad y Cymry i Archesgob Caergaint cyn 1115. Eto mae Mr. H. Lloyd, yn y lle a nodwyd, yn dywedyd yn 1568, ei fod ef yn cofio iddo ddarllen fod un Elbod yn Archesgob Gwynedd, ac iddo gael ei ddyrchafu i'r anrhydedd hynny gan Esgob Rhufain; ac mai efe oedd y cyntaf a gymododd y Cymry ag Eglwys Rufain, 762. Yr wyf fi yn barnu fod y Cymry yn Bapistiaid yn hîr cyn iddynt ymddarostwng i Archesgob Caergaint, gan fod y gelyniaeth mor fawr rhwng y Cymry a'r Saeson.
Addysg Gweinidogion yn 1777
P. Pa drefn a gymerodd yr Ymneillduwyr yng Nghymru tuag at roi dysg i'w gweinidogion o'r dechreuad hyd yma?
T. Ymdanodd yr Ymneillduwyr, fel y nodwyd, ar hyd y wlad, trwy lafurus weinidogaeth gwyr a ddugwyd i fyny yn Rhydychen, mewn bwriad i
- ↑ Catalogue, pp. 49, 54.
- ↑ Dywedir i esgob a elwid Aldhelm gael ei drefnu mewn cymanfa i ysgrifennu yn erbyn y Brutaniaid, am nad oeddent yn cytuno â defodau crefyddol Eglwys Rufain. Wedi i'r gwr hwn ysgrifennu, dywedir i'w lyfr gael y fath effaith ar lawer o'r Brutaniaid fel y darfu iddynt gydffurfio â defodau y Rhufeiniaid. Mae'r hanes yn nodi i'r ysgrifennydd hwn farw ynghylch y flwyddyn 708.—"New History of England," 4th Edition 1753, P. 218.